Ysgol Llansawel – Y Blynyddoedd Cynnar

 

Llansawel School today

Ysgol Llansawel heddiw

Mae Llansawel yn ffodus bod ei Log Ysgol wedi goroesi’n gyfan. Cafodd ei ddechrau ym mis Rhagfyr 1869, tua saith mlynedd cyn i’r adeilad presennol gael ei godi, a chafodd ei gynnal yn drwyadl tan 1997, pan laciodd y llywodraeth yr angen cyfreithiol i gynnal log.

Roedd gofyn i’r athro gofnodi digwyddiadau pwysig i’r ysgol, a chyflwyno adroddiad wythnosol byr, yn ogystal â chopïo pob adroddiad blynyddol Arolygydd Ei Mawrhydi iddo â llaw.

Roedd yr athrawon yn talu sylw manwl i lefelau presenoldeb – dim ond disgyblion â chofnod presenoldeb da yr oedd modd eu cyflwyno i sefyll arholiadau. Roedd presenoldeb y plant yn Llansawel yn afreolaidd ac mae’r athro’n cofnodi rhesymau dros hynny’n llawn diflastod – “mae llawer o’r plant yn cael eu cadw gartref oherwydd torri gwair” neu “y cynhaeaf” neu “plannu tatws” neu “maen nhw’n helpu eu rhieni yn yr ardd” ac ati. Mae’r log yn rhoi darlun byw nid yn unig o’r ysgol ond o’r pentref hefyd, ac o fywyd amaethyddol. Nid y ffaith ei fod yn unigryw yw atyniad arbennig ein log ysgol, ond yn hytrach  am ei fod yn portreadu cymuned wledig Gymreig ac yn dilyn ei hanes trwy gyfnod o newid mawr.

Cyfnod Cynnar Ysgol Llansawel
Tan Ddeddf Addysg 1870, roedd yr holl ysgolion wedi’u trefnu’n breifat a thalwyd amdanynt gan rieni neu cawsant eu hariannu gan gymwynaswyr. Roedd ysgol Llansawel yn cael ei rhedeg gan Fwrdd o ddynion busnes ac arweinwyr crefyddol lleol, oedd yn cyflogi’r athrawon ac yn gyfrifol am yr holl agweddau ar yr ysgol, yn cynnwys yr adeilad. Yr athro oedd yn casglu’r ffioedd (Ceiniogau Ysgol) gan y plant.

Roedd athrawon yn amrywio o ran eu brwdfrydedd i gasglu ffioedd – byddai rhieni’n cwyno’n aml ac yn cadw’u plant gartref hyd yn oed er mwyn osgoi talu. Cafwyd argyfwng ym mis Medi 1875 pan fu farw’r Fonesig Williams o Edwinsford, a oedd wedi bod yn talu’r Ceiniogau Ysgol i lawer o’r plant tlotaf, a daeth y taliadau i ben.

Ym 1873 y tâl oedd chwe cheiniog yr wythnos yr un i’r plant hynaf a dwy geiniog i faban. Ym 1876, mewn ymgais lwyddiannus i wella presenoldeb, cafodd hyn ei ostwng i bedair ceiniog i’r hynaf a cheiniog i’r babanod.

St Sawyls Church Vestry

Festri Eglwys St Sawyl

Dechreuodd yr ysgol yn festri’r eglwys. Mae’n frawychus dychmygu sut beth fyddai hynny, oherwydd hyd yn oed pan oedd presenoldeb yn isel roedd rhwng deugain a phumdeg o blant yn yr ysgol. Erbyn Rhagfyr 1869, roedd wedi symud i Neuadd y Dref, a gafodd ei hadnabod yn ddiweddarach fel yr Hen Lys (gweler y llun) sy’n sefyll rhwng y Black Lion a Gwesty’r Angel. Roedd yn dal i gael ei defnyddio fel llys ynadon yn y 1960au ac mae bellach yn gartref preifat.

Fel ysgol, nid oedd yn llawer gwell na’r festri. Roedd deugain o blant rhwng pump a thair ar ddeg oed, gyda llawer ohonyn nhw â dim diddordeb mewn gwella’u hunain, i gyd mewn un ystafell (pymtheg troedfedd wrth dri deg a phump troedfedd) yn cael eu haddysgu gan un athro gyda help dau swyddog a disgybl-athro, wedi’u dewis o’r safonau uwch. Ym 1874, roedd yr athro, Mr Hubert, yn poeni am ddisgybl-athro, Margaret, nad oedd ganddi unrhyw reolaeth dros ei disgyblion ac roedd yn gwrthwynebu pob ymgais ganddo i’w “gwella” hi. Bu’n cwyno’n aml i Fwrdd yr Ysgol ond nid oedden nhw’n fodlon rhoi rhywun yn ei lle hi ac roedd yn rhaid iddo ei dioddef hi tan iddi adael o’i gwirfodd. Roedd yna broblemau eraill hefyd. Ni wnaeth y pentref stopio defnyddio Neuadd y Dref pan symudodd yr ysgol i mewn a phryd bynnag yr oedd angen y neuadd at ddibenion eraill, roedd yr ysgol yn cael ei chau. Roedd Ffeiriau Gwlân, Ciniawau Rhent a Chlybiau, Ocsiynau a Sesiynau Bach niferus. Yn aml roedd presenoldeb yn isel yn yr ysgol hyd yn oed pan oedd ar agor, a hynny o ganlyniad i atyniadau eraill. Ffair foch yn y pentref, cystadleuaeth aredig, milodfa deithiol – gallai pob un o’r rhain olygu bod yr athro druan yn cofnodi absenoldeb cyfran fawr o’i ddisgyblion, nad oeddent yn triwantio, ond bod eu rhieni wedi eu cadw nhw i ffwrdd. Er tegwch i’r rhieni, roedd eu bywydau yn anodd ac roeddent yn aml yn dibynnu ar lafur plant eithaf ifanc i helpu i ofalu am erddi bach a gwneud tasgau hanfodol. Fodd bynnag, i wneud yn iawn am yr amser a gollwyd, roedd yn rhaid i’r athro agor yr ysgol ar y Sadwrn, oedd yn golygu ei fod yn fwy amhoblogaidd byth gyda’r rheini a’r plant.

The Town Hall

Neuadd y Dref

Roedd problemau eraill yn cynnwys diffyg toiledau yn yr adeilad. Byddai’n rhaid i’r plant (a’r athro mae’n siŵr) fynd i lawr y grisiau a cherdded can llath i lannau Afon Marlais, lle mae Iard Glanmarlais nawr. Roedd dau doiled bach pren oer a drewllyd iawn yno, gafodd eu datgan yn annerbyniol gan sawl arolygydd hyd at yr adeg (1876) pan symudodd yr ysgol i’w adeilad presennol oedd yn gymharol foethus.

The Town Hall from the business end, showing the stairs and door to the schoolroom, court or dining hall, according to need.

Neuadd y Dref o’r ochr fusnes, yn dangos y grisiau a’r drws i’r ysgoldy, llys neu neuadd ginio, yn ol yr angen.

Cystadleuaeth
Pan oedd yr athro yn ceisio ennyn disgyblaeth, byddai’r rhieni weithiau’n ei herio neu’n mynd â’u plant i ffwrdd, neu’r ddau. Roedd ysgolion eraill yng Nghaio, Crugybar, Talyllychau, Abergorlech a Rhydcymerau. Ym mis Hydref 1874, agorodd Ysgol Hen ferch yn Llansawel, ar draws y stryd o Neuadd y Dref. Pan benderfynodd Jonah Evans, aelod o Fwrdd yr ysgol  ddechrau ei Academi neu ysgol ramadeg ym mis Mai 1875, i baratoi’r disgyblion mwyaf tebygol ar gyfer y coleg neu’r weinidogaeth, mae’n rhaid ei fod yn ergyd i’r athro, Mr Hubert. Mae’n cofnodi’n gynnil yn y log ar gyfer yr wythnos honno bod Mr Evans wedi mynd â’i ddisgyblion gorau.

Yr athrawon cyntaf oedd:

▪   William Franklin Rhag 1869 tan Fai 13 1872
▪   James Joseph Kerr Ion 6 1873 tan Fai 29 1874
▪   Arthur Hubert Meh 29 1874 tan Fai 5 1876
▪   Edward Preece May 19 1876 tan Fawrth 15 1878

Y Symud Mawr
Symudodd yr ysgol i’r adeilad presennol yn ystod cyfnod Mr Hubert. Yn yr un modd a’i ragflaenwyr (a’r arolygwyr – gweler y darn o’r adroddiad isod), roedd yn datgan yn aml bod y plant yn “araf”, ond deallodd yn fuan nad oedd yr ymateb syn ar wyneb y plant pan oedd yn gofyn cwestiynau iddynt o ganlyniad i dwpdra, ond oherwydd bod y plant yn cael trafferth gyda’r Saesneg – ym mhob man arall yr oedden nhw’n siarad Cymraeg, ond roedd gwersi’r ysgol yn cael eu dysgu’n gyfan gwbl trwy’r Saesneg.

Pan agorwyd yr ysgol yr ydym yn ei hadnabod heddiw o’r diwedd ddydd Llun Mehefin 12, 1876, fe wnaeth nifer y disgyblion bron â dyblu. Roedd problemau presenoldeb yn bodoli o hyd adeg y cynhaeaf ac adegau plannu wrth gwrs ond o leiaf roedd yr ysgol nawr yn gwasanaethu’r gymuned gyfan – fel y mae wedi gwneud hyd heddiw.

Darn o Log yr Ysgol, Wythnos yn dod i Ben Mehefin 16, 1876

“Pasiwyd yr ystafell ddosbarth newydd  ddydd Mercher Mehefin 7 a’i hagor fore Llun. 
Roedd Mr Jones (Aelod o’r Bwrdd) yn bresennol adeg yr agoriad yng nghwmni sawl ysgolor newydd. Roedd tri ohonynt, er eu bod dros saith oed, yn methu â chyflawni gwaith babanod. Mae agor yr ystafell newydd wedi annog llawer o’r cyn ysgolorion (yr wyf yn amau eu bod wedi diflasu ar yr hen ystafell) i fynychu’r wythnos hon, gan godi’r cyfartaledd yr wythnos hon i 85.3. Mae angen mawr ar yr ysgol am ddisgybl-athro.

Penodwyd menyw o’r enw “Margaret Jones” gan “Y Bwrdd” i weithio fel gwniadwraig.
  Galwodd Mr Williams (Aelod o’r Bwrdd) fore Iau a phrynhawn Gwener. Y Parch C.H. Chidlow a’r Parch W.G. Williams.  Rhoddodd y cyntaf waith arddywediad i’r dosbarth cyntaf a gwrandawodd yr ail ar yr ail ddosbarth yn darllen.

Archwiliwyd y dosbarthiadau fore Gwener.
Nifer yr ysgolorion oedd yn bresennol o gwbl yn ystod yr wythnos oedd 94.”

Mae’r cofnod syndod o fyr hwn yn cofnodi’r symud i’r adeilad newydd, ac yna’n symud ymlaen yn gyflym i faterion bob dydd.

Adroddiad Cyntaf yr Arolygydd ar yr Ysgol, 1871
“Cynhelir yr ysgol hon ar hyn o bryd mewn ystafell dros dro yng nghanol y Pentref. Defnyddir yr ystafell hon fel Neuadd y Dref ac i gynnal Ffeiriau Gwlân hefyd. Mae’r toiledau o bren ger glan yr afon ac yn bell iawn o’r ystafell ddosbarth. Nid oes modd dweud eu bod yn foddhaol:- dylai adeiladau Ysgol pwrpasol gydag iardiau cyfleus a thoiledau gael eu darparu cyn gynted â phosib. Ni roddir unrhyw wersi Crefyddol yn yr ysgol. Mae’r athro dros dro yn darllen rhwng 10 ac 20 adnod o’r Beibl ar ddechrau’r Ysgol heb roi nodiadau na sylwadau a dyma’r unig Ysgrythur a ddarllenir. Agorwyd yr ysgol fis Tachwedd diwethaf. Roedd 62 o blant yn bresennol ar ddiwrnod yr arolygiad. Roedd 49 o’r rhain yn hŷn na chwe blwydd oed ac wedi dod yn gymwys trwy sefyll arholiad. Y nifer yn bresennol oedd 42 neu trwy dynnu nifer y rhai oedd yn absennol, 38.  Roedd trefn a disgyblaeth gyffredin yr Ysgol yn deg iawn, ac roedd natur yr Addysgu, gan ystyried bod yr Ysgol yn gymharol newydd, yn foddhaol, ac yn argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol. Rhan wan yr Addysgu oedd bod plant yn dangos ychydig iawn o ddeallusrwydd pan ofynnwyd cwestiynau hawdd iawn iddynt oedd yn deillio o’u gwers Darllen; roedd yr un diffyg yn bresennol pan roddwyd cwestiynau syml mewn Mathemateg Pen i’r Dosbarth Cyntaf.”