Ysgol Llansawel – 1937-1947 – Blynyddoedd yr Ail Ryfel Byd

Llansawel School Class of 1940 (Part One)  Left to Right. Back row: William Jones Headmaster, Betty Williams Beli Tew (now of Cilgwyn Crugybar), Myfanwy Williams, Betty Williams Bethel Terrace, John Williams Banc y Glyn, then Abernaint, Miss Olwen Evans Uncertified Assistant. Middle Row: Eirwen & Elsie Davies Neuaddwen, Denzil & Tegwyn Williams Bethel Terrace, Margaret Thomas Dolau Gleision, Doreen Evans Cwm Login then Castell. Front Row: Tom Evans Castell, Delyth Davies Neuaddwen, Alun Davies Y Felin, Mair Thomas Swan, Sid Griffiths Ivy Cottage, Albert Davies Castle Terr then Sunny Hill

Dosbarth Ysgol Llansawel 1940 (Rhan Un) Chwith i’r Dde. Rhes Gefn: William Jones Pennaeth, Betty Williams Beli Tew (nawr o Cilgwyn Crugybar), Myfanwy Williams, Betty Williams Bethel Terrace, John Williams Banc y Glyn, Abernaint bryd hynny, Miss Olwen Evans Cynorthwy-ydd Didrwydded.
Rhes Ganol: Eirwen ac Elsie Davies Neuaddwen, Denzil a Tegwyn Williams Bethel Terrace, Margaret Thomas Dolau Gleision, Doreen Evans Cwm Login, Castell bryd hynny.
Rhes Flaen: Tom Evans Castell, Delyth Davies Neuaddwen, Alun Davies Y Felin, Mair Thomas Swan, Sid Griffiths Ivy Cottage, Albert Davies Castle Terrace Sunny Hill bryd hynny

Dechreuodd log yr ysgol ym 1869.  Ynddo, roedd yn rhaid i athrawon yn ôl y gyfraith nodi digwyddiadau o bwys i’r ysgol, e.e. ymwelwyr neu ddosbarthu cyfarpar. Roedd presenoldeb bob amser yn faen tramgwydd. Os byddai’n syrthio islaw 50%, nid oedd modd llenwi’r gofrestr. Roedd yn rhaid i bob plentyn fod yn bresennol mewn nifer penodol o sesiynau er mwyn eu cyflwyno ar gyfer arholiadau. Nid oedd y sesiynau nad oeddent wedi’u cofrestru yn cyfrif, hyd yn oed i’r plant hynny oedd yn bresennol. Oherwydd hyn, roedd absenoldebau neu achosion o gau anarferol yn cael eu hymchwilio bob tro, ac, wrth ddarparu’r atebion, mae’r log yn rhoi darlun teg nid yn unig o iechyd a lles y plant ond o fywyd y plwyf, newid cymdeithasol – ac wrth gwrs, mewn cymuned ffermio – y tywydd.

Mae llawer ohono yn ddeunydd bob dydd – ymweliadau rheolaidd gan y Nyrs Ardal a’r Swyddog Presenoldeb, er enghraifft. Mae’r cofnodion hwyrach yn tueddu i fod yn fyrrach na’r rhai a wnaed yn yr 1870au ond nawr ac yn y man y byddai rhywbeth yn ysgogi’r athro i fynd i fanylder ac mae’r darnau hyn yn werthfawr iawn i ni pan fyddant  yn cael eu cynnwys.

Yn y darn presennol, mae salwch yn frith, yn cynnwys tarwden, anwydau, ffliw, brech yr ieir, clwy’r pennau, y pas, niwmonia, y frech goch, y dwymyn goch. Ni chafwyd achosion o ddifftheria na thwbercwlosis yn ystod 1937-47 ond roedd y bygythiad yno o hyd. Y rheswm mwyaf cyffredin am absenoldeb mae’n debyg oedd ofn dal annwyd. Roedd diwrnodau gwlyb yn golygu bod llawer o blant yn aros gartref. A chan mai yng Nghymru ydym, roedd llawer o’r rheiny.

Ym 1937 roedd tua 35 o blant yn yr ysgol. Roedd y ffigur wedi bod lawer yn uwch a byddai’n codi eto tua diwedd y Rhyfel.

Yn ystod y blynyddoedd hynny, y Pennaeth oedd William Jones.  Roedd ganddo help Cynorthwy-ydd Didrwydded ac weithiau Athro Cymwys. Roedd y rhain bob amser yn fenywod ac yn aml yn ifanc iawn. Ym mis Rhagfyr 1937 pasiodd y Cynorthwy-ydd Didrwydded, Miss E A Davies, ei phrawf gyrru ac ychydig fisoedd yn ddiweddarach ymddiswyddodd a mynd i weithio yn yr ysgol yn Abergorlech.  Roedd wedi bod yn Llansawel ers 10 mlynedd.  Wedi hynny, fe wnaeth sawl Cynorthwy-ydd Didrwydded fynd a dod bob blwyddyn. Yn aml roedden nhw yno i ennill ychydig o brofiad cyn gwneud cais i Goleg Hyfforddi Abertawe ar gyfer eu cwrs tystysgrif dysgu. Mary Olwen Evans fu yno hiraf, sef oddeutu tair blynedd.  Noder mai £141 y flwyddyn oedd ei chyflog. Olwen sydd yn y ddau lun ysgol o 1940.

Llansawel School Class of 1940 (Part Two)  Left to Right. Back row: William Jones Headmaster, Mary Evelyn George Pistillgwyn, May Evans Garreg, Megan Roberts Cwm Login, Alwyn Davies Glynmarch, John Davies Post Office, Emrys Williams Swan Fach, Gwynfor Price Pantmawr, Miss Olwen Evans Uncertified Assistant Middle Row: Emlyn George Pistillgwyn, Beryl Lewis Marlais View, Evelyn Lewis Frondeg, Marion Davies Post Office, Brenda Davies Post Office, Rhiannon Williams Rhyd y Gân. Front Row: Meirion Williams Rhyd y Gân, Meirion Lewis Marlais View, Harry Roberts Cwm Login

Dosbarth Ysgol Llansawel 1940 (Rhan Dau) Chwith i’r Dde.  Rhes gefn: William Jones Pennaeth, Mary Evelyn George Pistillgwyn, May Evans Garreg, Megan Roberts Cwm Login, Alwyn Davies Glynmarch, John Davies Swyddfa Bost, Emrys Williams Swan Fach, Gwynfor Price Pantmawr, Miss Olwen Evans Cynorthwy-ydd Didrwydded
Rhes Ganol: Emlyn George Pistillgwyn, Beryl Lewis Marlais View, Evelyn Lewis Frondeg, Marion Davies Swyddfa Bost, Brenda Davies Swyddfa Bost, Rhiannon Williams Rhyd y Gân.
Rhes Flaen: Meirion Williams Rhyd y Gân, Meirion Lewis Marlais View, Harry Roberts Cwm Login

Amodau

Cafodd basnau ymolchi eu gosod yn lobïau’r ysgol yn ystod gwyliau haf 1940 ond rhaid cofio nad oedd dŵr rhedegog yn yr ysgol ar yr adeg honno. Darparwyd dŵr i’r pentref o ffynnon tan ddiwedd y pumdegau.

Newidiadau cymdeithasol

Digwyddodd nifer o newidiadau cymdeithasol pwysig yn ystod y cyfnod hwn.

  • Llaeth ysgol dyddiol o Dachwedd 1937 – i’r rhai oedd am dalu. Roedd llaeth am ddim ar gael i’r rhai oedd yn gwneud cais amdano, ond ni wnaeth neb hynny. Cyflenwyd y llaeth gan Mr Jones o Bistillgwyn, ac roedd yn cynnwys gwellt am ddim. Parhaodd tan 1946 pan gafwyd adroddiad anffafriol gan y dadansoddwr a newidiodd yr ysgol i Mr Davies o Sunnybank.
  • Daeth ciniawau ysgol am 4c yr un ar ôl llawer o baratoi gofalus ar 15 Mawrth 1943.  Roedd Mr Jones y Prifathro yn falch iawn o’r rhain a gorfododd i ddirprwyaeth o’r Awdurdod Addysg fwyta un ohonyn nhw.
  • Ym 1947 codwyd oed gadael yr ysgol i 15.

Blynyddoedd y Rhyfel

Ar 14 Mehefin 1940, cyrhaeddodd 22 o blant oedd yn ifaciwîs o Ysgol yn Llundain – Hearnville Road – ac yna daeth bechgyn a merched o Abertawe, gyda staff addysgu yn eu hebrwng. Defnyddiwyd Festri Bethel fel ysgoldy ychwanegol. Y Prifathro Jones oedd y Swyddog Lletya hefyd ar gyfer yr ifaciwîs ac roedd yn gwasanaethu ar nifer o bwyllgorau lleol adeg y rhyfel : Rhagofalon Cyrchoedd Awyr, Rheoli Bwyd, Gwasanaeth Ieuenctid, ac Atal Tân yn eu plith. Mr Jones hefyd oedd Llywydd Cymdeithas Sirol Undeb Cenedlaethol yr Athrawon ac roedd yn aelod o Gyngor Dosbarth Gwledig Llandeilo.  Dilynodd gwrs garddio er mwyn iddo allu arwain y plant mewn tyfu llysiau ar ran o dir yr ysgol. Roedd adroddiad ym 1943 (gweler yr oriel) yn beirniadu’r plot am fod yn llai na’r un a wnaethant yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf!

Gaeaf 1947

Mae gaeaf 1947-48 yn cael ei gofio am fod yn oer iawn. Roedd lluchfa eira wedi rhwystro mynediad i’r ysgol am ddyddiau.

Rhai cofnodion o’r log

12 Mai 1937   Yr ysgol ar gau.  Coroni ei Fawrhydi. Cafodd y plant a’r rhieni de wedi’i ddarparu o’r Trethi. Rhoddwyd mwg y Coroni i’r plant gan y Cynghorydd Sir lleol – Mr J Morgan, Island.  Rhoddwyd y ddau ddiwrnod canlynol sef Mai 13 a 14 fel gwyliau ychwanegol er anrhydedd i’r Coroni.

15 Gorffennaf 1938  Yr ysgol ar gau. Seithfed Jiwbilî Cyfieithiad Dr Morgan o’r Beibl i’r Gymraeg a dathlu Pedwar Canrif y Beibl Agored.

4 Medi 1939  Roedd yr Ysgol i fod i agor ar y diwrnod hwn (ar ôl Gwyliau’r Haf) ond oherwydd i’r Rhyfel ddigwydd gohiriwyd yr ailagor am rai dyddiau. Yn ystod yr wythnos defnyddiwyd yr Ysgol i ddosbarthu peiriannau anadlu.

6  Hyd 1939   Yn ystod yr wythnos effeithiwyd yn andwyol ar bresenoldeb gan beswch gwael ymysg y plant. Mae Betty Williams i ffwrdd – yn adfer ar ôl effeithiau llawdriniaeth i dynnu tonsiliau ac adenoidau.

1 Mawrth 1940  Gwnaed cyfeiriadau priodol heddiw i Ddiwylliant Cymru ac yn y prynhawn daeth y plant at ei gilydd i roi eitemau amrywiol – caneuon, adroddiadau, deialogau a sgetsys byr. Cyfrannodd yr holl blant at y rhaglen mewn rhyw fodd.  Eitem ddifyr oedd sgets fer “Byfwyl Ddewi” lle chwaraewyd un o’r cymeriadau yn wirfoddol gan fachgen oedd wedi bod yn rhy swil erioed i siarad Cymraeg – roedd yn dod o ardal Seisnigaidd o Sir Frycheiniog a chan fod yn rhaid i rai o’r cymeriadau ganu’r darn roedd yn dda gweld bod y rhai nad oeddent erioed wedi cymryd rhan mewn canu yn gwneud ymdrechion canmoladwy iawn i berfformio’r unawdau. Roedd pob bachgen yn y brif ystafell yn gallu chwarae rhan pob bachgen ac yn yr un modd mae’r holl ferched wedi dysgu pob rhan i ferch.

16   Mehefin 1942  Daeth Sinema Symudol y Pwyllgor Arbedion Rhyfel i ymweld â’r Ysgol yn y prynhawn ac arddangos ffilmiau yn dangos Ymdrechion Arbedion.

9  Rhag 1943    Daeth Cwnstabl lleol yr Heddlu i ymweld â’r ysgol y bore hwn a siarad â’r plant am Beryglon y Ffordd. Yn y prynhawn daeth Cynrychiolydd y Bwrdd Marchnata Llaeth i siarad (â’r) plant hŷn am laeth.

3 Medi 1946 Yn ystod y gwyliau, rhoddwyd te i’r plant i ddathlu’r Fuddugoliaeth dros Siapan.

Mawrth 4 1947  O ganlyniad i storm eira, caewyd yr ysgol yn gynnar er mwyn i’r plant allu cyrraedd gartref cyn i’r ffyrdd gael eu rhwystro.

Nodyn 1
Adroddiad gan Mr J Branker a ddaeth i ymweld â Gardd yr Ysgol ym mis Mehefin 1942
“Llansawel.
  Mae’r ardd hon bellach tua 1/8 erw mewn maint. Mae nifer a maint y bechgyn sydd ar gael yn fach. Yn ystod y rhyfel diwethaf roedd ardal pedair gwaith maint hon yn cael ei thrin. Mae’r pridd yn llifwaddodol ac yn lôm tywodlyd. Mae’r plot wedi’i ffensio’n dda.

Mae’r ysgol yn ceisio bod yn hunangynhaliol o ran bwydo’r Ysgol.

Roedd cryn dipyn o fwyd ar gael ar gyfer y gaeaf.”

Nodyn 2
Adroddiad ar Ysgol Llansawel gan Arolygydd Ysgolion EM Mr M H Davies Maw 12 1940
“Ers 1913, mae’r nifer a gofrestrwyd yn yr ysgol hon wedi syrthio o 76 i 32. Mae’r grŵp uchaf o 19 o blant yn cael ei addysgu gan y Prifathro yn y brif ystafell; mae’r dosbarth is o 13 disgybl yn yr ystafell ddosbarth ac yn cael ei addysgu gan gynorthwy-ydd didrwydded benywaidd.

Mae’r gwresogi, y goleuo a’r awyru yn foddhaol, ond mae angen ailaddurno y tu mewn i’r ysgol. Mae’r ardd a’r maes chwarae yn ychwanegiadau positif i’r cyfleusterau cyffredinol ond mae diffyg cyfarpar chwaraeon yn yr ysgol. Mae dŵr o fewn cyrraedd hawdd ond nid yw’r ysgol wedi’i chysylltu â’r ffynhonnell ac nid yw’r toiledau ar y system cludo dŵr.

Mae angen cyfleusterau i arddangos deunydd arddangosiadol ar lefel llygad yn y ddwy ystafell ddosbarth, yn enwedig yn ystafell y Babanod. Defnyddir sleidiau Lantern i gefnogi addysgu Daearyddiaeth; mae’r cyfarpar ar gyfer addysgu Celf a chrefft llyfrau yn dda. Mae llyfrgell o lenyddiaeth Cymraeg a Saesneg wedi’i dethol yn dda yn yr ysgol. Nid oes gan yr ysgol biano, gramoffôn, radio neu fand taro.

Mae cyfarpar ar gyfer addysgu pynciau sylfaenol yn cael ei ddyfeisio’n ofalus ac mae amrywiaeth o ddulliau yn cael eu defnyddio i feithrin mynegiant rhydd. Mae hyfforddiant iaith yn cael sylw agos ac mae plant yn cyflawni eglurder a hyder da.

Nid yw gwehyddu wedi’i gyflwyno eto, ac nid oes gan ferched gyfle i astudio gwyddor cartref. Mae cerddoriaeth wedi cael sylw ychwanegol yn ddiweddar ac mae cynnydd cadarn wedi’i nodi eisoes.

Mae’r Prifathro yn cynnal cyswllt â mentrau addysgol cyfredol ac mae wedi creu yn yr ysgol awyrgylch o weithgarwch pwrpasol, cwrteisi a chyfeillgarwch.”

Y Plant sy’n Ymddangos yn y Lluniau
Roedd  Brenda Davies yw byw yn Erwlas tan 2010 pan symudodd i Landaf.  Mae ei chwaer Marion, sydd hefyd yn y llun, yn byw yn Llandaf hefyd erbyn hyn.  Mae Betty Williams nawr yn byw yng Nghilgwyn Crugybar.  Mae Denzil Williams, ymgymerwr ac adeiladwr, sydd bellach wedi ymddeol, yn dal i fyw yn y pentref, yn yr un modd ag y mae Alun Davies, sydd wedi dychwelyd i Y Felin, cartref ei blentyndod. Mae  Emlyn George nawr yn byw yn Llanwrda.