Mynedfa Dreftadaeth Neuadd y Pentref

Yn 2010 gwnaeth Pwyllgor Neuadd Llansawel gynllun i adnewyddu’r neuadd, gan ychwanegu estyniad a llawr ganol, i gynyddu’r amrywiaeth o ddefnydd posib ar gyfer y neuadd. Cafwyd caniatâd cynllunio a chymeradwyaeth rheoliadau adeiladu. Cyn bwrw ymlaen â’r datblygiad, yn gyntaf roedd yn rhaid gwneud tiroedd y neuadd yn ddiogel. Cafodd un o ddau borth preifat yn wal y ffin ei gau a chytunwyd i osod mynedfa ar gynllun newydd sbon yn lle’r llall fyddai’n gwella a’r diogelwch a’r ymddangosiad.

Cafwyd caniatâd cynllunio a chyllid ar wahân i’r fynedfa newydd yn 2013.

detail from an aerial photograph from 1975, showing the village hall with both entrance walls intact.

Manylion o ffotograff o’r awyr o 1975, yn dangos neuadd y pentref gyda’r ddwy wal fynedfa’n gyfan.

Yr Hen Borth

Adeiladwyd Neuadd Llansawel ym 1957, gyda giât fach i’r brif ffordd, a honno’n ddeg troedfedd ar draws yn unig, rhwng pileri briciau, a chyda wal friciau wedi’i rendro ar bob ochr yn ffurfio ffordd i draffig oedd yn dod i mewn. Ym 1988, dymchwelwyd y wal tua phont Marlais i alluogi dod â cherrig mawr i mewn i gryfhau glan yr afon ac adeiladu cored newydd. Gosodwyd system post a chadwyn yn lle’r wal ar ôl i’r gwaith hwn gael ei wneud. Fodd bynnag, oherwydd bod y bwlch yn fynedfa fwy cyfleus na’r giât, yn y pen draw peidiwyd â’i defnyddio. Roedd y fynedfa wedi dod yn anniben felly ac nid oedd yn gwneud defnydd da o’r lle oedd ar gael.

The hall frontage just before the new project began  The vertical timber in the foreground is an inconveniently positioned telegraph pole.

Blaen y neuadd cyn i’r prosiect newydd ddechrau.  Y pren fertigol ym mlaen y llun yw postyn telegraff mewn man anfoddus.

Y Cynllun Newydd

Y cyngor a gafwyd gan yr adran Cynllunio Priffyrdd oedd ceisio cael y gwelededd gorau posib, oherwydd y bont gefngrwm ar y chwith ac wyneb Marlais View ar y dde.  Arweiniodd hyn at ddewis rheilen yn hytrach na wal.

Arweiniodd y cais am gyllid yn gyflym at Gronfa Grant Tirwedd a Threftadaeth Sir Gaerfyrddin a’r syniad o gael y rheilen a’r giatiau i goffáu treftadaeth y plwyf a hanes blaenorol tir y neuadd yn farchnad da byw.

Part of the King's Licence to hold a market in Llansawel.  Obtained by Sir Rice Williams in 1688.

Rhan o Drwydded y Brenin i gynnal marchnad yn Llansawel.  Wedi’i chael gan  Syr Rice Williams ym 1688.

Mae Archifau Sir Gaerfyrddin yn dal trwydded dyddiedig  1688 a roddwyd i Syr Rice Williams, Arglwydd  Edwinsford ar y pryd, i gynnal marchnad yn Llansawel.  Gan fod yr Eglwys yn dyddio’n ôl i’r 13eg ganrif, mae’n debygol bod marchnadoedd ymhell cyn 1688, ond dyma’r dystiolaeth gynharaf a gafwyd hyd yma.

 

 

Nodweddion coffaol a chrefft leol y Fynedfa Newydd

  • Gwnaed y rheilen a’r giatiau gan Eirian Morgan, ffarier a gof, o Ffarmers
  • Mae’r addurniadau du wedi’u mewnosod, sydd wedi’u torri o ddur plât trwm, yn nodi porthmon a’i anifeiliaid, sef dafad, mochyn, ceffyl a tharw.
  • Mae’r giatiau i’r cerbydau yn cynnwys dau glwstwr o ddaffodiliau a’r geiriau “Neuadd Llansawel”
  • Mae’r giât i gerddwyr, ger y ciosg ffôn, yn dangos eliffant Affricanaidd. Ym 1888 bu farw eliffant o filodfa deithiol pan oedd yn y pentref a chladdwyd ei gweddillion yma. I ddarllen y manylion llawn, gweler Stori’r Eliffant, mewn man arall ar y wefan hon.
  • Defnyddiwyd carreg o hen ffin y farchnad ar gyfer y cerrig o dan y rheilen, ac ar ochr agosach at y pentref.
  • Daeth yr holl gerrig yn yr ardd fach ger Rhif 1 Marlais View, yn cynnwys y cerrig mawr, o Chwarel Dinas, nad yw’n cael ei defnyddio bellach, pen caregog y mynydd sy’n edrych dros Lansawel.  Mae’r holl luniau o’r dyffryn yn dyddio o’r tridegau neu’n gynharach yn dangos bryn ychydig yn uwch gyda chopa llyfn. Mae’r chwarel nawr yn eiddo i Tarmac plc.  Hoffem nodi eu haelioni drwy ganiatáu i’r prosiect gael cerrig am ddim.
  • Dewiswyd y cerrig mawr gan John Jones, Saer Maen Coffaol, Alltymynydd, Llanybydder, ac ef hefyd wnaeth baratoi’r garreg fawr ar gyfer y plac.
  • Gosodwyd y giatiau a’r rheilen gan Dai Morgans, adeiladwr, Yr Hen Lys, Llansawel, ac ef hefyd wnaeth yr holl waith cerrig.
  • Crëwyd elfen hanesyddol y wefan hon yn rhan o’r un prosiect grant a chafodd ei lansio yn ystod hydref 2013.

    The new entranceway, put in place September-October 2013

    Y fynedfa newydd, a osodwyd ym Medi-Hydref 2013

Mae’r darn canlynol o History of Llansawel Fred S. Price (1898) yn disgrifio dyddiau’r porthmyn, a oedd yn dirywio’n gyflym pan oedd yn ysgrifennu. Yn ystod oes Fictoria cynlluniwyd rheilffordd yn cysylltu Abertawe ag Aberystwyth y byddai, pe byddai wedi digwydd, wedi pasio trwy Dalyllychau. Efallai wedyn byddai Llansawel wedi tyfu’n Llanbedr Pont Steffan neu’n Llanymddyfri arall. I’r gwrthwyneb y buodd hi – yn eironig, dyfodiad y rheilffordd oedd yn gyfrifol am ddod â phorthmona pellter hir i ben fel ffordd o fyw, gan i’r anifeiliaid gael eu hebrwng pellterau cymharol fyr i’r orsaf reilffordd agosaf a’u llwytho i lorïau.

Dylid nodi bod y gair “tref” a ddefnyddir gan Mr Price yn golygu unrhyw gasgliad o anheddau, waeth pa mor fach, ac nid tref fel yr ydym ni’n ei hadnabod. Ni fu Llansawel erioed yn fwy na’r hyn ydyw nawr ac yn nyddiau Mr Price roedd cryn dipyn yn llai.

“Llansawel was once a market town and the central station connecting the whole industrial pursuits of the surrounding parishes, and part of Cardiganshire, with the outside world. Through it passed all the cattle, sheep, horses, and pigs: cart-loads of pigs killed for the Brecon, Merthyr, and Aberdare markets were often seen on its roads. Through it also passed the Cardiganshire farmers for lime and coal. Again it was the farmers’ and cattle dealers’ place for shoeing the cattle on their way to the famous Barnet and other markets; and for many days in those times, the fields around were crowded with cattle and sheep. During the winter the ringing anvils at the smithy were busy preparing the iron “cûs” and nails for thousands of the “ da wâr.” The cûs were two small iron plates under each foot, the outer plate having four holes and the inner one three. Here the cattle were shoed, and one can guess that Llansawel must have been a lively place, not dead nor unknown. Here many of the old characters – drovers – spent some pleasant days, but the race of drovers are gradually lessening in number, and they have found, like Othello, that their occupation is gone.
”