Hanes Adeiladu Neuadd Llansawel

Cnewyllyn y Syniad
Daeth y syniad i adeiladu neuadd gyhoeddus i Blwyf Llansawel i’r amlwg yn gyntaf ar ôl y rhyfel. Ar Hydref 28 1946 cadeiriodd y Parch Thomas Glenville Rees gyfarfod cyhoeddus yn yr ysgol gyda 40 o bobl yn bresennol. Nid oedd gan Mr Rees ysgrifennydd yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw ond ysgrifennodd ei nodiadau cryno ei hun a’u cofnodi wedi hynny yn gofnod byr sy’n amlinellu’r holl argymhellion y dilynodd pwyllgor y neuadd wedi hynny wrth greu a rhedeg yr Ymddiriedolaeth.

Ym 1946, roedd y wlad yn adfer ar ôl chwe blynedd o ryfel ofnadwy ac roedd arian yn rhy brin ar gyfer cynllun adeiladu ac felly cytunodd y cyfarfod i edrych ar ddod o hyd i hanner erw o dir a rhentu cwt byddin gwag (am £15 y flwyddyn) fel neuadd dros dro. Parhaodd y syniad hwn dros sawl blwyddyn ond yn y pen draw aeth pethau eraill yn drech, ac ni roddwyd y peth ar waith.

Ffurfio’r Ymddiriedolaeth
Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Cae Chwarae a Neuadd Llansawel yn ffurfiol mewn cyfarfod cyhoeddus ar Fai 11 1949.  Y swyddogion cyntaf oedd y Cadeirydd Mr John Griffiths, y Trysorydd Anrhydeddus – y Parch T. Glenville Rees BA a’r Ysgrifennydd Mr William Jones, Glanmarlais.

Dechreuodd y pwyllgor newydd gasglu arian ar unwaith i ddechrau ar y prosiect. Fe wnaethon nhw gynnal adloniant a galw yn nhai pobl, yn hyrwyddo’r achos yn ddiflino. Mae’r fantolen gyntaf ar gyfer 31 Hydref 1951, yn dangos bod £300 wedi’i gasglu wrth ymweld â thai pobl gan drigolion hael Llansawel a chodwyd y gweddill o ddigwyddiadau adloniant. Sylwer yr un eitem o dan Taliadau – £250 to buy the field.

The first Trust Balance Sheet, for 1951.

Mantolen gyntaf yr Ymddiriedolaeth, ar gyfer 1951.

Caffael y Tir
Y cae dan sylw oedd Hen Gae’r Mart ger Afon Marlais fach oedd yn cael ei adnabod yn lleol fel tir Penybont, er y cafodd ei werthu i arwerthwyr Evans Bros yn Llanybydder ym 1925 a’i brynu ganddynt ym 1947 gan D T Williams, cyn reolwr Siop Co-op y Ffermwyr yn Llansawel a hen ffrind i Bwyllgor y Neuadd, a oedd erbyn hynny wedi symud i Langadog. Mae’n ymddangos ei fod wedi’i brynu gyda’r bwriad o sefydlu garej, ond aeth ei gynlluniau i’r gwellt. Beth bynnag,  ei enw ef sy’n ymddangos ar Drosglwyddiad Ionawr 1952 fel y gwerthwr.

Roedd Hen Gae’r Mart wedi cael ei ddefnyddio ers amser hir fel lleoliad syrcas a ffair, ac yn bennaf fel marchnad da byw.  Mae Trwydded y Brenin, a roddwyd i Syr Rice Williams ym 1688 i gynnal marchnad da byw yn Llansawel yn Archifau Sirol Sir Gaerfyrddin. Cafodd sied haearn bwrw oedd ar safle’r neuadd bresennol ei dymchwel a’i gwerthu yn y cyfnod yn arwain at adeiladu’r Neuadd ym 1956.

This picture is believed to have been taken around 1935.  The field between the two hedges is the Old Mart Field.  An iron shed stands where the hall is now.

Credir bod llun hwn wedi’i dynnu oddeutu 1935.  Y cae rhwng yddwy berth yw Hen Gae’r Mart.  Mae sied haearn yn sefyll lle mae’r neuadd nawr..

Y pryder brys am Hen Gae’r Mart oedd Afon Marlais a oedd yn aml yn tarfu ar y caeau, ac yn achlysurol yn lledu i’r pentref. Cafodd y lan ei chryfhau a’i gwneud yn fwy â charreg o Chwarel Dinas ar ben y bryn tuag at Edwinsford. Darparwyd y cerrig gan yr hael Mr D Idris Davies, perchennog y chwarel.

Bob blwyddyn, roedd y mantolenni yn dangos cynnydd pendant y Pwyllgor.

▪   1952: £395
▪   1953: £500
▪   1954: £1010
▪   1955: £1186
▪   1956:  £1484.

Mynd i’r afael â’r Neuadd Newydd
Yn y diwedd roedden nhw’n teimlo’n barod i gymryd y cam mawr. Roedd yr hinsawdd ariannol wedi gwella ychydig, er bod hwn yn dal i fod yn gyfnod o galedi, ac roedd pobl yn sylweddoli bod y wlad wedi’i niweidio’n barhaol gan y rhyfel ac yn cael anhawster addasu i ddyfodol llym wedi’r Ymerodraeth. Ond roedd grantiau ar gael weithiau bellach ar gyfer adeiladu yn y gymuned ac roedd yr Ysgrifennydd yn llwyddiannus wrth ennill grant gwerth traean o gyfanswm cost y prosiect – ac yn ddigon rhyfedd, fe ddaeth gan y Weinidogaeth Addysg.  Ynghyd ag arian a gasglwyd a’r ymateb calonogol i apêl leol am fenthyciadau di-log 2 flynedd, teimlwyd y byddai hynny’n ddigon.

Cafodd Mr John Simon o Lanymddyfri ei gyflogi fel pensaer ac roedd ei wybodaeth a’i fentergarwch yn hanfodol i lwyddiant y prosiect mewn ffyrdd annisgwyl.

Cafodd cynlluniau eu gwneud a’u hanfon at nifer o adeiladwyr. O’r pedwar dyfynbris a dderbyniwyd, roedd yr isaf gan J & W T Lewis o Lanymddyfri, sef £4,285.0.0.  Cafodd hwn ei dderbyn a gofynnwyd i’r gwaith ddechrau ar 7 Mai 1956.  Cytunodd Messrs Lewis i hyn ond ar unwaith (1 Mai 1956) anfonon nhw lythyr arall yn nodi camgymeriad yn eu dyfynbris ac yn gofyn am £450.0.0 ychwanegol am waith trydanol. Gofynnon nhw hefyd i’r dyddiad cwblhau gael ei newid i 31 Mawrth 1957.  Derbyniodd y Pwyllgor y pris newydd a llofnodwyd y contract ar 7 Mai 1956 am £4,735.0.0, ond gyda dyddiad cwblhau ychydig yn optimistaidd, sef Nadolig 1956.

Byddai agoriad ysblennydd adeg y Nadolig wedi bywiogi gaeaf 1956 yn hyfryd ac mae’n hawdd gweld pam yr oedd y Pwyllgor wedi dymuno cael hyn. Daeth tro arall yn yr hanes gan Messrs Lewis bythefnos yn ddiweddarach ar ddydd Sadwrn 19 Mai 1956, pan dynnon nhw allan o’r Contract heb eglurhad. Penderfynodd y Pwyllgor beidio â’u gorfodi, a dechrau chwilio ar unwaith am Gontractiwr arall. Roedden nhw am i Mr D Idris Davies o Chwareli Dinas ddefnyddio’i ddylanwad i gaffael gwasanaethau Mr D Jones o Gaio.  Am unwaith roedd Mr Davies yn rhy brysur i wneud unrhyw beth er iddo ganiatáu iddyn nhw ddweud wrth Mr Jones y gallai ddefnyddio cyfarpar Chwarel Dinas a allai fod yn ddefnyddiol iddo yn y gwaith adeiladu. Ar Fehefin 6 1956 roedd yn rhaid i’r ysgrifennydd adrodd nad oedd Mr Jones yn gallu helpu chwaith, ond yn y cyfamser roedd Mr Simon y pensaer wedi bod yn siarad â Messrs Lewis, yr ymddengys eu bod wedi tynnu’n ôl o’r Contract oherwydd ail gamgymeriad yn eu cyfrifiadau cost. Cyfarfu’r partïon eto ar Fehefin 8 1956 pan roddwyd caniatâd i Messrs Lewis godi pris y Contract i £5070, sef £290 ychwanegol.  Er gwaethaf y ddau gynnydd hyn, roedd pris y Contract yn dal i fod £700 yn is na’r dyfynbris agosaf ac yn £2000 yn is na’r uchaf. Roedd y trafodaethau yn hirfaith fodd bynnag ac er na nodwyd unrhyw fanylion, fwy na thebyg yr oeddent yn canolbwyntio ar yr angen i’r addasiad hwn fod yr un olaf, er mwyn i’r gwaith adeiladu fynd rhagddo heb unrhyw rwystrau pellach.

Ac i fod yn deg, dechreuodd Messrs Lewis ar y gwaith yn llawn egni a gallu. Ni wnaethon nhw gwrdd â dyddiad Nadolig y Pwyllgor. Ni wnaethon nhw gwrdd â’u dyddiad eu hunain, sef 31 Mawrth chwaith ond roedd y gwaith wedi’i orffen tua deufis wedi hynny. Roedd yn berfformiad ardderchog. Nid oes gan unrhyw un o’r cyfnod hwnnw unrhyw gof o’r  gwaith adeiladu ar ei hanner: ymddengys ei fod wedi symud o’r cyfnod cynllunio i’w gwblhau yn gyflym ac yn esmwyth.

Y Camau Olaf
Trwy gydol y cyfnod adeiladu, roedd y Pwyllgor yn ymwneud yn bennaf â sicrhau bod arian parod ar gael i dalu’r adeiladwr – yn casglu taliadau grant, yn cadw’r gwaith papur yn llifo, yn trefnu digwyddiadau codi arian ac yn trefnu’r benthyciadau di-log hollbwysig hynny gan drigolion lleol cefnogol. Trwy gydol hanner cyntaf 1957, roedd hefyd y tasgau mwy braf i’w cyflawni sef dewis cyfarpar a lliwiau paent i’r neuadd. Dewiswyd y cadeiriau yn ofalus iawn (300 ohonynt am £2.3/6 yr un gyda disgownt sylweddol.)  Yr eitem fawr arall oedd llenni ar gyfer llwyfan y neuadd a brynwyd gan Tarr o Rydaman.   (Nid y rhain oedd y llenni presennol, a gafwyd gan yr Ysgrifennydd Tom Jones yn oddeutu 2000 pan gafodd yr hen rai eu gwrthod gan y cyngor oherwydd eu bod yn debygol o fynd ar dân yn rhwydd.)

The important moment! D D Davies Maesllan (chairman) faces camera.  E L Jones (secretary) looks on from the right, while Mr D Idris Davies Dinas Quarries formally opens the Hall door.  The figure on the left may be John Simon the Hall architect.

Y foment bwysig!  D D Davies Maesllan (cadeirydd) yn wynebu’r camera.  E L Jones (ysgrifennydd) yn gwylio o’r dde, wrth i Mr D Idris Davies Chwareli Dinas agor drws y neuadd yn ffurfiol.  Efallai mai’r ffigur ar y chwith yw John Simon, pensaer y Neuadd

Y  foment bwysig! D D Davies Maesllan (cadeirydd) yn wynebu’r camera. E L Jones (ysgrifennydd) yn gwylio o’r dde, wrth i Mr D Idris Davies Chwareli Dinas agor drws y neuadd yn ffurfiol. Efallai mai’r ffigur ar y chwith yw John Simon, pensaer y Neuadd.

Diwrnod yr Agoriad
Agorodd y Neuadd gyda phrynhawn o areithiau a Chyngerdd Fawreddog gyda’r Hwyr, ar 1 Mehefin 1957 ac yn dilyn hynny sefydlwyd trefn rwydd o gyngherddau, dramâu, sioeau adloniant a digwyddiadau chwaraeon, yn ogystal â darparu cartref i grwpiau cymunedol. Mae boddhad y Pwyllgor yn amlwg o’r cyfnod hwnnw ymlaen, wrth iddynt drefnu eu digwyddiadau eu hunain a rhoi benthyg y neuadd i fudiadau lleol. Yn yr un modd â gweddill y plwyf, roedden nhw’n falch o’u Neuadd a’u cyflawniad ar y cyd wrth ei chreu.

Cyfrannodd llawer o bobl, yn aelodau o’r Pwyllgor ac eraill at y prosiect, a hynny’n ariannol a thrwy ddarparu llafur a sgiliau. Cafodd y Gadeiryddiaeth ei chylchdroi’n flynyddol a hefyd felly swydd y Trysorydd, ond yr un tîm craidd fu wrth y dasg tan agorwyd y Neuadd ar Fehefin 30 1957.  Dyma nhw yn nhrefn yr wyddor.

Mr Daniel David Davies, Ffermwr o Faesllan
Mr Thomas Saunders Davies, Gweithiwr Coedwigaeth, Eryl
Mr Thomas Islwyn Davies, Ffermwr o Lygadyrych
Mr John Griffiths, Ffermwr o Bantydderwen,
Mr David John James, Trwsiwr Moduron, Pantysgawen
Mr Evan Lewis  Jones, Crydd o Siop Gwalia
Mr David Glyn Jones (mab E.L.), Siop Gwalia
Parch Thomas Glenville Rees, Gweinidog gyda’r Annibynwyr, Tegfan & Manse
Mr David Idris Williams, Dyn Ffordd y Cyngor Sir wedi Ymddeol, Glynawel
Mr  David Jenkin Williams, Rheolwr y Co-operative Stores o Hwanfa
John Henry Williams, Ffermwr o Frondeg

The cover of the programme for the opening of the Hall


Clawr y rhaglen ar gyfer agoriad y Neuadd

Yn yr holl ymdrech gymunedol glodwiw hon, rhaid rhoi sylw arbennig i’r tad a’r mab Evan Lewis Jones a David Glyn Jones.  Roedd y tad wedi cyflawni gwyrthiau o ran diwydiant a dyfeisgarwch wrth gyflawni’r prosiect adeiladu. Ymunodd y mab â’r Pwyllgor ar 19 Ionawr 1956 fel Ysgrifennydd Cynorthwyol ac yna pan fu farw ei dad ym 1963 aeth ymlaen i wasanaethu fel Ysgrifennydd am dri deg pedair o flynyddoedd tan iddo farw ym 1997.  Nid oes posib fod yna lawer o enghreifftiau gwell o wasanaeth ffyddlon i gymuned.

 

 

 

The Hall Committee on Opening  Day, June 1 1957 Back Row: John Griffiths, T Islwyn Davies, D J James Middle: D G  Jones, Idris Williams, J H Williams Front: E L Jones, D D Davies, T S Davies

Pwyllgor y Neuadd ar Ddiwrnod yr Agoriad, Mehefin 1, 1957
Rhes Gefn: John Griffiths, T Islwyn Davies, D J James
Canol: D G Jones, Idris Williams, J H Williams
Blaen: E L Jones, D D Davies, T S Davies