Gwersyll Carcharorion Rhyfel Henllan – Eglwys y Sacred Heart

Inside the Church of the Sacred Heart, showing the Last Supper painted on the dome ceiling by Mario Ferlito.

Tu mewn i Eglwys y Sacred Heart, yn dangos y Swper Olaf wedi’i baentio ar y nenfwd grommennog gan Mario Ferlito.

Mae Henoed Llansawel yn mynd ar wibdeithiau diwylliannol niferus bob blwyddyn, a hynny’n bosib trwy garedigrwydd Pwyllgor Coits Llansawel sydd ers llawer o flynyddoedd wedi rhoi holl elw’r Gystadleuaeth Coits flynyddol a gweithgareddau codi arian cysylltiedig er budd y grŵp.

Ddydd Gwener Medi 4 2009, aeth yr Henoed ar daith i Wersyll Carcharorion Rhyfel Henllan ger Llandysul, sy’n enwog am yr Eglwys Babyddol y gwnaeth y carcharorion allan o un o’r cytiau Nissen haearn rhychiog yr oeddent yn cysgu ynddynt.

Y Gwersyll

Adeiladwyd y gwersyll yn ystod 1941-42 ac, ym mis Mai 1943, cyrhaeddodd dros 1,200 o Eidalwyr a gipiwyd yn Libya a Thiwnisia yno a’u gorfodi i weithio, ar y tir yn bennaf, ac mor bell i ffwrdd â Llanrhystud, Manorbier, Llandeilo a Chaerfyrddin. Roedden nhw’n gwisgo gwisg lliw siocled neu win gyda chylchoedd melyn ar y cefn a’r pengliniau.

Roedd cyfarpar da yn y gwersyll gydag ysbyty, theatrau, caeau pêl-droed, cyrtiau tennis, lawnt fowlio, ceginau, swyddfeydd, celloedd, unedau cludiant, storfeydd, ystafelloedd ymolchi ac oddeutu 30 o gytiau Nissen. Cafodd y carcharorion eu trin yn dda, gan drefnu cwmni opera a band swing. Yn ystod eu horiau hamdden, roeddent yn cael mynd allan ac yn aml y byddent yn stopio i siarad â’r bobl leol – roedd rhai yn cael byw ar y ffermydd lle roeddent yn gweithio hyd yn oed. Ar eu cais nhw, gosodwyd un cwt naill ochr iddynt i greu eglwys Babyddol – ond nid oedd yr awdurdodau Prydeinig yn barod i roi unrhyw help ymarferol gyda’r prosiect.

A closer view of the nave.  The candlesticks are all two dimensional, made out of flattened corned beef tins.

Golwg agosach ar yr allor.  Mae’r canwyllbrennau i gyd yn ddau ddimensiwn, wedi’u gwneud o duniau corn-biff gwastad.

Y Carcharorion

Mewn grŵp o 1200, roedd llawer o ddynion talentog a dyfeisgar. Fe wnaethon nhw gadw tuniau coco, jam a chorn-bîff, pecynnau a chratiau pacio pren, a mynd â briciau o adeilad adfeiliedig. Fe wnaethon nhw gyfnewid gwaith crefft am sment. Roedden nhw’n ailgylchu hoelion rhydlyd ac yn achub bagiau sment gwag a phapurau newydd. O’r deunyddiau annhebygol hyn, adeiladon nhw gôr, allor uchel a dôm, allorau ochr a bedyddfaen dŵr swyn. Rholion nhw ganiau tun mawr i mewn i sgroliau i wneud pileri a thorri silwetau ar gyfer canwyllbrennau. Gosodon nhw baent du dros sylfaen wen i edrych fel marmor, papuro’r waliau a’r bwâu â sachau sment a chuddio’r semau gyda darnau o bapur newydd, gan ludo’r cwbl gyda phast o flawd a dŵr.

Gogoniant yr eglwys yw’r dôm wedi’i baentio uwchben yr allor, ynghyd â’r murluniau ar drawstiau’r nenfwd. Er gwaethaf degawdau o esgeulustod, mae’r lliwiau yn parhau’n driw ac yn brydferth.  Mae hyn yn fwy syfrdanol byth oherwydd bod y paent a ddefnyddiwyd yn baent cartref. Cyfrannodd gweithwyr yn y felin wlân gyfagos dabledi o lifynnau ar gyfer gwlân. Casglodd eraill eirin o goedwigoedd a pherthi, ac arbed dail te, pwlp moron a chroen winwns o’r gegin. Cymysgwyd hyn i gyd â phast a wnaed o esgyrn pysgod a hylif piclo.

Mario Ferlito

Ni chafwyd gwybod pwy oedd y paentiwr (Mario Ferlito) tan ganol y saithdegau pan ddaeth cyn garcharor rhyfel i ymweld â Henllan a helpu i ddod o hyd iddo. Ar ôl y rhyfel daeth yr eiddo yn wersyll ailsefydlu Almaenwyr, yna’n ysgol uwchradd am gyfnod byr, ac ar ôl rhai blynyddoedd yn safle gwersyll gwyliau ffyniannus. Yn ystod y cyfnod hwn esgeuluswyd y cytiau ac aethant yn adfeilion, tan mai’r eglwys yn unig oedd ar ôl. Yng nghanol y saithdegau, aeth plant Ysgol Gynradd Sirol  Ferwig i ymweld â’r gwersyll ac roedden nhw wrth eu bodd â’r eglwys. Ysgrifennon nhw at Mario Ferlito ac ym 1977, daeth wyth cyn garcharor rhyfel, â Mario yn eu plith, i Henllan.  O hynny allan, roeddent mewn cysylltiad yn rheolaidd. Ar weld ei waith unwaith eto, dywedwyd bod Mario yn emosiynol iawn a’i fod wedi dweud (yn Eidaleg): “Trwy enfys fy nagrau, rwy’n gweld dyddiau fy ieuenctid yn agor o fy mlaen fel tudalennau llyfr.”

A painting of the Virgin Mary by Mario Ferlito hangs on the wall of the church

Mae darlun o Grist yn cario’r groes gan Mario Ferlito yn hongian ar wal yr eglwys.

Nôl ym 1943, roedd giard wedi sylwi ar dalent artistig y milwr 21 oed ac roedd eisoes wedi paentio golygfeydd ar gyfer cynyrchiadau theatr y gwersyll pan ofynnwyd iddo addurno’r eglwys. Treuliodd dri mis ar y gwaith, yn ystod ei amser hamdden, gan weithio’n aml wrth olau cannwyll gyda’r hwyr. “Nid oedd papur darlunio gen i,” meddai, “dim ond taflenni o bapur ysgrifennu. I fesur, roeddwn yn defnyddio cortyn bach. Defnyddiais un brws dyfrlliw ar gyfer llinellau tenau a’r wynebau. Roedd gen i un mwy o faint am olchiadau.”

Eglwys y Sacred Heart yw’r unig adeilad crefyddol o’i fath sy’n dal i sefyll ar dir mawr Prydain.

Bu farw Mario Ferlito yn 2008 yn 86 oed yn ei gartref yn Ornavasso, ar Lyn Maggiore yng Ngogledd yr Eidal.

Sefydlodd Cymdeithas Cyn-Garcharorion Rhyfel yr Eidal gronfa adfer i sefydlogi’r adeilad. Mae’r perchnogion wedi cryfhau’r to oedd yn gwegian a gosod trawstiau croeslin. Mae paent sy’n plicio a llwydni yn broblem o hyd, ond mae’r to wedi’i wella ac mae’r waliau wedi’u gorchuddio â gwydr ffibr. Mae rhosyn gwyn oedd wedi tyfu dros ei waliau a’i drysau ac y dywed ei fod wedi helpu i’w ddiogelu, wedi cael ei ailblannu naill ochr i’r drws.

An exterior view if the church before restoration.

Golwg o’r tu allan i’r eglwys cyn y gwaith adfer

Cysylltiad Lleol
Mae cysylltiad rhwng Henllan a Llansawel.  Roedd tad Rocco Sisto, Guiseppe, yn garcharor yno. Wedi hynny bu Guiseppe yn ffermio yng Ngorsgoch cyn dychwelyd i’r Eidal yn ystod ei flynyddoedd olaf. Ganed Rocco ym Mhentref Henllan ar ôl y rhyfel. Ef wrth gwrs sy’n rhedeg y felin lif ym Mhentref Talyllychau a tan yn ddiweddar roedd yn ffermio rhan o Benlan ar fryn y chwarel y tu allan i Lansawel.  Mae Doreen ac ef yn byw yn  Abergorlech.

Yn seiliedig ar erthygl a ysgrifennwyd gan Jon Meirion Jones

A plan of the POW Camp

Cynllun o’r Gwersyll Carcharorion Rhyfel