Fred S Price

Fred S. Price, photographed about 1900

Fred S. Price, mewn llun o oddeutu 1900

Ganed Frederick Samuel Price yn Llansawel ar Ragfyr 16 1862, gyda’i enedigaeth yn cael ei chofrestru ym mhlwyf  Llandilo fawr ar Ionawr 15 1863.  Cafodd ei dad, Evan Price, ei eni ar Fferm Beili Ficr, sef hyd heddiw y fferm fwyaf a mwyaf amrywiol yn y plwyf, ac aeth ymlaen i fod yn berchennog ar siop ddillad Llansawel (Glynsawyl) a’i rhedeg am sawl blwyddyn.

Yn fachgen, roedd Fred yn ddisgybl yn Ysgol Llansawel.  Roed yn blentyn galluog, ac yn wahanol i’w dad a dreuliodd ran fwyaf ei oes yn y plwyf, ac yntau’n  oedolyn ifanc teimlodd yr awydd i ledu’i orwelion, ac felly symudodd i Abertawe. Priododd â Saesnes o’r enw  Rebecca, yno ym 1893.    Bu farw ei dad ym 1896 ond roedd dau o leiaf o dri brawd a chwaer Fred wedi bod yn helpu i ofalu am y siop am flynyddoedd cyn hynny. Ym 1898 ganed mab hynaf Fred, Evan Emrys.  Dyma’r flwyddyn y cyhoeddodd y cyntaf o’i lyfrau ar hanes lleol, yr oedd pob un ohonynt am leoliadau ei blentyndod – The History of Llansawel, wedi’i ddilyn ym 1904 gan The History of Caio, ac yn dilyn bwlch hir, ym 1934, The History of Talley.

Mae Fred Price yn ymddangos ar gyfrifiad Abertawe ym 1911, yn 48 oed, fel cyfrifydd a phrisiwr tir, wedi’i gyflogi gan y swyddfa dreth. Bu farw yn Abertawe ym 1947.  Mae hysbysiad yn y London Gazette ym 1947 yn gofyn am hawliadau ar ei ystâd (ni wnaeth adael ewyllys) yn ei alw’n “aseswr trethi wedi ymddeol.”  Gellir dod i’r casgliad felly ei fod wedi treulio’i fywyd gwaith yn y rôl hon. Yn y dyddiau hynny roedd swydd am oes yn rhywbeth dymunol, hyd yn oed os nad oedd yn ymddangos yn waith difyr neu foddhaus. Roedd y rhan fwyaf o bobl gyffredin yn falch o’r sefydlogrwydd ac yn cael boddhad mewn ffyrdd eraill – trwy ddiddordebau hamdden. Roedd Fred S Price yn hanesydd amatur medrus ac roedd ei ddiddordeb hiraethlon yn ei hen gartref wedi parhau, er nad oedd rhagor o deulu Price ar ôl yn Llansawel ar ôl i’w fam farw – roedd pobl eraill yn byw yn yr hen dŷ Glynsawyl (a elwir erbyn hyn yn Sawyl House) erbyn 1911.

Mae pob un o’i dri llyfr wedi’u hysgrifennu’n gelfydd yn Saesneg a Chymraeg, ac yn llawn gwybodaeth ac iaith  lenyddol flodeuog drawiadol. Mae’n beth prin i dair cymuned fach elwa ar driniaeth gan hanesydd da oedd hefyd yn eu hadnabod yn drylwyr, ac mae’r llyfrau i’w trysori felly gan unrhyw un â diddordeb mewn hanes lleol neu gysylltiad ag unrhyw rai o’r cymunedau dan sylw.

Cafodd yr holl lyfrau eu hargraffu’n breifat ac erbyn hyn mae’n anodd (ac yn ddrud) cael gafael arnynt. Mae llawer o’r copïau wedi’u colli neu eu difrodi’n wael ac mae’r rhai sydd ar gael o hyd yn bwysig iawn i’w perchnogion ac nid ydynt ar gael i’w prynu.

You can see the shopfront of Glynsawyl or Sawyl House, the draper's, under the raised roof toward the far end of the terrace.  The photograph was taken around 1890, while Evan Price was still the proprietor.  Fred had probably gone to Swansea by this time.

Llun o Swyddfa Bost Llansawel yw hwn, ond gallwch weld blaen siop (tywyll) Glynsawyl neu Sawyl House, y siop ddillad, tua chanol y teras.  Cafodd ei dynna tua 1890, pan mai Evan Price oedd y perchennog o hyd.  Nid yw ef ymhlith y dorf tu allan i’r swyddfa bost yn y llun.  Mae bron yn sicr bod Fred yn byw yn Abertawe erbyn hy .

Rhifyn Newydd

Gyda help Cronfa Grant Tirwedd a Threftadaeth Sir Gaerfyrddin, bydd rhifyn newydd o The History of Llansawel yn cael ei gyhoeddi y gaeaf hwn, gyda nodiadau, mapiau a lluniau ychwanegol.

Mae The History of Llansawel yn cofnodi’r hyn a wyddwyd bryd hynny am y plwyf o’r cyfnodau cynharaf tan y dyddiad cyhoeddi (1898).  Mae’n cynnwys cofnod manwl arbennig o dda am linach y tŷ mawr lleol (Edwinsford) a’r bonedd (Williams) oedd wedi byw yno ers y 15fed ganrif.   Mae’n dal i fod yn ffynhonnell ddibynadwy ac eithaf eang am yr hen gyfnod ac mae’n sicr yn werth ei gadw.

Gweithiau Eraill Fred

Diolch i Mr Emrys Williams, Aberystwyth, rydym yn gwybod bod Fred Price wedi cwblhau dau ddarn arall o waith o leiaf, mynegai llenyddol a enillodd wobr yn yr Eisteddfod, a choffâd i’r Parch Evan Davies, yr ydym yn gobeithio dod o hyd iddo yn fuan.

Teulu Fred Price

Roedd gan Fred Price ddau fab, Evan Emrys (g. 1897, m. 1971) a Wesley Owen (g 1903, m. 1983) (bu farw trydydd plentyn pan oedd yn faban). Ymddengys mai hen lanc oedd Evan Emrys.  (Wesley Owen oedd yr hysbysydd ar ei dystysgrif marwolaeth.)  Enillodd radd BSc mewn gwyddoniaeth, ac roedd yn athro yn Abertawe. Cymhwysodd Wesley Owen yn beiriannydd trydanol ac roedd yn briod. Nid yw’n glir eto beth oedd hanes ei weddw, Doreen Mary, nac ychwaith a oedd unrhyw blant wedi goroesi.

Roedd gan Fred chwaer hŷn hefyd, sef Marian (g. 1859), a brawd iau, John Daniel (g. 1865) , a chwaer iau Ada Eliza (g. 1866).  Yng nghyfrifiad 1881 mae Fred, oedd yn 18 ar y pryd, yn cael ei restru fel ysgolor, tra roedd Marian a John Daniel yn helpu yn siop ddillad eu tad yn y pentref. Mae cyfrifiad 1891 yn dangos Evan a’i wraig Eliza yn y tŷ ar eu pennau’u hunain ac mae’r siop wedi troi’n siop ddillad a groser. Roedd Eliza gyda llaw yn Saesnes, ac wedi’i geni yn  Stroud.   Erbyn 1901 roedd yn byw ar ei phen ei hun yng nghartref y teulu. Nid yw’n hysbys ar hyn o bryd beth ddigwyddodd i aelodau eraill y teulu.