Eliffant

“Lizzie” was stuffed and stood for sixty years in the foyer of Swansea Museum, where she remained a big favourite. In the 1950’s the moths got her and she had to be dumped.

“Lizzie”

Efallai bydd pobl hŷn Llansawel yn dweud wrthych bod eliffant wedi marw yma a chael ei chladdu o dan Neuadd y Pentref. Mae’n swnio fel stori wirion, ond mae’n wir! Fe ddigwyddodd ym 1888. Mae sôn andano yn History of Llansawel Fred Price (gweler hanes y llyfr mewn man arall ar y wefan hon) a gyhoeddwyd ym 1898. Dyma stori lawnach wedi’i chreu o sawl ffynhonnell..

One of Wombwell’s beautiful but not very accurate posters. The animal shown is a mandrill. A (thirty years) later edition corrects the mistake.

Un o posterin prydferth Wombwell, er nad yw’n gywir iawn.  Mandril yw’r anifail yn y llun.  Mae rhifyn hwyrach (30 mlynedd yn ddiweddarach) yn cywiro’r camgymeriad..

Ddydd Sadwrn Mehefin 16 1888, cyrhaeddodd filodfa deithiol o’r enw Bostock and Wombwell yn Llansawel i gynnal sioe. Heddiw rydym yn defnyddio’r gair milodfa i olygu sw, ond yn y dyddiau hynny roedd yn gyfuniad o sw a syrcas ac roedd yn rhaid i’r anifeiliaid ddysgu triciau yn ogystal â chael eu harddangos.

Mae’n anodd i ni ddychmygu byd heb adloniant trwy wifren – dim teledu, dim sinema na ffotograffiaeth hyd yn oed. Mae’n wir bod y ffotograff cyntaf wedi’i dynnu ym 1826 a bod Daguerroteipiau lletchwith yn cael eu defnyddio o ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, ond nid oedd ffilm ffotograffig ar gael tan 1889, a fodd bynnag nid oedd modd eu hatgynhyrchu mewn papurau newydd a chylchgronau tan lawer yn hwyrach.

Milodfeydd teithiol oedd yr unig gyfle oedd gan y rhan fwyaf o bobl i weld llew neu eliffant yn ystod eu bywyd, ac roedden nhw’n boblogaidd dros ben ac yn gwneud arian mawr i’w perchnogion. Doedden nhw ddim yn sioeau bach chwaith. Roedd entrepreneuriaid Fictoraidd yn gwybod yn iawn sut i drefnu sbloetsh. Byddai amrywiaeth o syrcas, ffair a sw, gydag injans stêm i yrru’r adloniant a thynnu trên o wagenni yn olygfa ysblennydd hyd yn oed yn y  cyfnodau modern syrffedig hyn. Roedd un filodfa er enghraifft yn gallu cynnig ugain o lewod yn ogystal â bleiddiaid a phantherod, ac amrywiaeth o greaduriaid llai. Bostock and Wombwells oedd un o’r hynaf, y mwyaf a’r gorau. Y rhan fwyaf o’r amser roedd ganddo dair milodfa yn teithio mewn gwahanol rannau o’r wlad ac mewn lleoedd gwledig, byddai pob milodfa yn rhannu’n unedau llai. Roedd pentrefi gwledig Sir Gaerfyrddin yn lleoedd anghysbell bryd hynny, ac roedd y ffyrdd wrth gwrs yn llawer mwy garw nag y maen nhw heddiw. Y dydd Sadwrn hwnnw oedd y tro cyntaf erioed i Bostock ymweld â Llansawel ond mae’n rhaid bod meddwl mawr gyda nhw ohonon ni oherwydd fe anfonon nhw eliffant arbennig iawn i’r pentref.

Two Asian elephants called Salt and Pepper from Bostock & Wombwells bathing in the sea at Aberystwyth in 1911.

Dau eliffant Asiadd o’r new Salt a Pepper o Bostock & Wombwells yn ymdrochi yn y mor yn Aberystwyth ym 1911.

Enw da?

Mae Mr Price yn dweud mai Alys oedd ei henw ond ymddengys mai camgymeriad yw hynny. Roedd Amgueddfa Abertawe a Fishlock yn cyfeirio ati fel Lizzie ond yn y filodfa cafodd ei hadnabod fel Madame Jumbo ac roedd rheswm da dros hynny. Roedd yn eliffant Affricanaidd benywaidd ac yn fawr iawn. Yr eliffant mwyaf mewn caethiwed erioed y gwyddys amdano oedd tarw Affricanaidd o’r enw Jumbo (oherwydd hyn daeth  Jumbo yn enw ar eliffantod yn gyffredinol a hefyd ar gyfer unrhyw beth oedd yn anarferol o fawr.) Roedd Jumbo yn byw yn Sw Llundain rhwng 1865 a 1882 a dywedwyd ei fod yn 13 troedfedd mewn taldra, mwy na dwywaith taldra dyn. Dywedwyd mai dim ond pum modfedd yn fyrrach na Jumbo oedd Madame Jumbo ac oes oedd hyn yn wir, roedd hi’n enfawr, oherwydd mae eliffantod gwrywaidd fel arfer draean yn fwy na’r rhai benywaidd. (Maint oedd yr unig beth a oedd gan y ddau eliffant yn gyffredin – er eu bod yn gyfoedion, dydw i ddim yn credu eu bod nhw erioed wedi cwrdd.) 
Yn gynnar fore dydd Llun 18 Mehefin, sylwodd ceidwad Madame Jumbo ei bod hi’n ddi-hwyl a bu farw’n fuan wedi hynny. Gan fod eliffantod marw yn anoddach fyth i’w cludo na rhai byw, agorwyd hi yn y fan a’r lle ac anfonwyd ei stumog i Lundain i’w dadansoddi (nid ydw i wedi llwyddo i olrhain y canlyniadau ond gweler cofnod awtopsi y sawl a roddodd ei enw iddi isod.) Rwy’n gobeithio na roddodd neb yn Llansawel rywbeth cas iddi i’w fwyta. Roedd tacsidermi yn gelfyddyd bwysig yn oes Fictoria a defnyddiwyd anifeiliaid wedi’u stwffio mewn tai preifat bach a mawr fel addurniadau. Roedd marwolaeth Madame Jumbo yn drychineb ariannol i’r filodfa ond cawsant beth o’u harian yn ôl trwy ei gwerthu hi wedi’i stwffio i Amgueddfa Abertawe yn fuan wedi hynny. Yn y cyfamser, mae’n rhesymol tybio bod y symiau mawr o gig eliffant oedd yn prysur aeddfedu (a hithau’n fis Mehefin) wedi’u claddu mewn twll yn rhywle ar gae Penybont. Gan fod gan y Cae Chwarae presennol ysgubor fawr arno a’r rhan uchaf ger yr afon yn goediog iawn, mae’n debygol bod y gweddillion o dan y maes parcio neu’r Neuadd ei hun.   Ond peidiwch â thrafferthu cloddio am yr esgyrn – roedd Captên Bostock yn ddyn busnes heb ei ail ac er nad oes cofnod o hyn, gallwn fod yn ddigon siŵr ei fod wedi trin a gwerthu’r ysgerbwd hefyd.

Cofnod Tyst o Bost Mortem Madame Jumbo. 
O’r Carmarthen Journal, dydd Gwener Mehefin 22, 1888

“Daeth cannoedd o bobl i filodfa Bostock (Wombwell gynt) a gyrhaeddodd yma (Llansawel) ddydd Sadwrn, a dyma ymweliad cyntaf y casgliad â’r lle. Yn absenoldeb band y filodfa, cafwyd gwasanaeth band pres Llanymddyfri ar gyfer yr achlysur a chwaraewyd detholiadau cerddorol yn ystod y noson. Ers ysgrifennu’r uchod, cawsom wybod am farwolaeth eu heliffant mawr – Madame Jumbo, a ddigwyddodd y bore yma (dydd Llun) tua 4 o’r gloch y bore. Roedd yn ymddangos yn iawn ar y noson flaenorol (nos Sul) adeg bwydo, ond tua 2 o’r gloch fe’i gwelwyd yn gorwedd i lawr a phan orchmynnwyd hi i godi gan ei cheidwad, nid oedd yn gallu gwneud hynny. Nid yw’r rheswm dros ei marwolaeth sydyn yn hysbys, ond credir mai llid oedd yn gyfrifol. Dim ond 5 modfedd yn llai o ran taldra oedd yr anifail hwn na’r byd-enwog Jumbo, a roddodd ei enw iddi hi. Roedd wedi’i hyfforddi’n ofalus iawn ac yn perfformio campau aruthrol am anifail mor fawr. Mae ei marwolaeth yn golygu colled o £2000 i Madame  a Mr Frank Bostock. Agorwyd y corff yn Llansawel, ym mhresenoldeb torf fawr, ac anfonwyd y stumog i Lundain i’w dadansoddi. Roedd holl gyflogeion y cwmni mawr hwn wedi ymddangos mewn rhwymau, i dalu teyrnged i’r Madame Jumbo dyner a chraff.”

Jumbo*

Jumbo in his prime.

Jumbo yn ei anterth.

Roedd Jumbo (1861 – Medi 15 1885) yn eliffant Affricanaidd, wedi’i eni yn Sudan Ffrengig, a’i gadw i ddechrau yn Sw y Jardin des Plantes ym Mharis. Ym 1865 cafodd ei symud i Sw Llundain, lle daeth yn enwog am roi rheidiau i ymwelwyr. Y ceidwaid sw yn Llundain roddodd ei enw i Jumbo, ac o bosib bathiad o’r gair Swahili jumbe ydoedd, sy’n golygu “pennaeth.”Gwerthwyd Jumbo ym 1882 i Syrcas Barnum and Bailey am $10,000 UDA. Amcangyfrifwyd ei fod yn 3.25 metr mewn taldra (10.6 troedfedd) yn Sw Llundain, a honnwyd bod Jumbo oddeutu 4 metr mewn taldra (13 troedfedd) erbyn adeg ei farwolaeth. Gan mai dim ond pedair blwydd oed oedd Jumbo pan aeth i Sw Llundain, efallai y byddai wedi tyfu cymaint â hynny, yn enwedig gan nad yw 10.6 troedfedd yn eithriadol i eliffant Affricanaidd gwrywaidd. Cafodd y tarw mwyaf a gofnodwyd erioed ei saethu yn Angola ym 1955. Roedd yn 13.8 troedfedd mewn taldra. Cafodd Jumbo farwolaeth ddramatig, gan ei fod wedi herio locomotif oedd yn symud yng Ngorsaf St Thomas yn Ontario, Canada. Bydd teithwyr rheilffordd modern yn cydymdeimlo â’i agwedd.  Daethpwyd o hyd i lawer o wrthrychau metalig yn ei stumog yn dilyn ei farwolaeth, yn cynnwys ceiniogau, dimeiau, niceli, allweddi a rhybedion.
*Diwygiwyd o Wikipedia

Eliffant Tregaron
Tregarron elephant

Mae cofeb yng Ngwesty’r Talbot, Tregaron, yn coffàu marwolaeth eliffant yno. Mae’n anhygoel, ond mae’r ddwy stori yn wir. Bu farw ein heliffant ni ym Mehefin 1888, a bron i ddeugain mlynedd union cyn hynny, ar 10 Gorffennaf 1848, daeth milodfa wahanol (Batty’s) i ymweld â Thregaron. Roedd gweithfeydd plwm gerllaw ym Mronwyn a “thorrodd un o’u heliffantod ei syched mewn pwll llygredig, ac roedd yn weithred farwol oherwydd fe’i gwenwynwyd gan blwm.” Mewn crynodiad mawr, gall gwenwyno gan blwm ladd yn gyflym iawn.

Ymchwil gan Dave Page wedi’i grynhoi o Wikipedia

Hanes Cryno Bostock and Wombwells
Yn Ewrop y canoloesedd, roedd anifeiliaid yn cael eu cadw er pleser ac astudio, ond hefyd fel arwyddion o bŵer. Daeth milodfeydd brenhinol yn benodol yn arwyddion o statws. Dechreuodd gerddi a pharciau sŵolegol cyhoeddus gymryd lle milodfeydd Brenhinol ar ddiwedd y 18fed ganrif. Sw Llundain, a sefydlwyd ym 1828, oedd sw gwyddonol cyntaf y byd a chymerodd anifeiliaid o’r filodfa hynafol Frenhinol yn Nhŵr Llundain.

Roedd milodfeydd teithiol yn ymwneud mwy â manteisio ar chwilfrydedd. Trefnodd George Wombwell frwydr ar un adeg rhwng ei lewod a chŵn fel ffordd o gael cyhoeddusrwydd. Dywedwyd ei fod wedi dechrau trwy brynu dwy neidr gan forwr yn Llundain a’u harddangos mewn tafarnau. Dechreuodd deithio fel Milodfa Deithiol Wombwell ym 1805. Erbyn 1839 roedd ei filodfa mor fawr roedd angen 15 wagen i’w chludo. Erbyn iddo farw, ym 1850, roedd ganddo dair milodfa wahanol ar daith yn gyson ac roedd mor adnabyddus cafodd ei ysgrif goffa ei chyhoeddi mewn papurau lleol dros y wlad i gyd.

Parhaodd ei deulu â’r cwmni am gyfnod hir ar ôl ei farwolaeth. Daeth un ohonyn nhw yn yr enwocaf o berchnogion milodfeydd – Edward (E.H.) Bostock. Ef oedd gor-nai George – roedd ei rieni yn rhedeg milodfa Rhif 2 Wombwell, felly cafodd ei eni i fywyd ar y ffordd ym 1858. Erbyn 1883 roedd wedi dechrau busnes ar ei ben ei hun, ond ym 1889 pan wnaeth ei fam ymddeol, prynodd ei milodfa hithau ac ail-enwi’r sioe gyfun yn “Bostock & Wombwells”.

Ysgrifennodd Bostock lyfr o’r enw Mengeries, Circuses and Theatres. Ynddo mae’n dweud mai Gilbert Pidcock oedd y cyntaf i agor milodfa, a hynny ym 1708, bron i ganrif cyn  Wombwell.

Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd sawl milodfa ar y ffordd; ymysg y rhai mwyaf adnabyddus mae Polito, Hilton, Ballard, Pidcock, Miles a Wombwell.

Yn Ffair Bartholomew ym 1825 dihangodd llewes ac ymosod ar goets bost Caerwysg.

Ym 1833 bu cyflogeion Wombwell a Hilton yn ymladd ar Ffordd Rhydychen rhwng Reading a Henley, wrth i’r ddwy sioe wibio rhwng ffeiriau . Milodfeydd  Wombwell a Hilton oedd y ddwy filodfa fawr ac roeddent yn ffyrnig o gystadleuol.

Teithiodd milodfa a syrcas Anderton a Haslam am rai blynyddoedd, gan fwyaf yn Swydd Gaerhirfryn a Swydd Efrog. Roedd Anderton yn hypnoteiddiwr hefyd oedd yn arddangos ei alluoedd ym mhabell y filodfa.

Yn y 1900au milodfa William Sedgewick oedd un o’r fwyaf ar y ffordd. Dechreuodd gyda stiwdio ffotograffig ac erbyn 1860 roedd yn teithio gyda sioe delwau cwyr. Yna symudodd i’r busnes milodfeydd ac erbyn 1869 roedd ganddo grŵp o lewod perfformio. Roedd Sedgewick yn bridio llewod ar raddfa fawr, gan ymffrostio bod ganddo fwy nag unrhyw ddyn sioe arall.

Er gwaethaf ffyrdd gwael ac amodau byw cyfyng i anifeiliaid a cheidwaid, teithiodd y sioeau bellterau mawr i gadw’r cyhoedd yn hapus. Aeth E.H. Bostock, er enghraifft, â’i “Grand Star Menagerie” ar y daith fach hon ym 1883/84:

Burton-on-Trent, Tutbury, Ashbourne, Derby, Nottingham (i’r Ffair Wyddau), yna i Sunderland ac ymlaen i Galashiels, Caeredin, Stirling, Perth, Dunkeld, Pitlochry, Kingussie, Crantown, Inverness, Wick, Thurso, Foress, Aberdeen, Forfar, Fife, Caeredin, Glasgow, dros Swydd Efrog i gyd ac yna i Hull ac yn fuan wedi hynny i Beverley, Bridlington, Filey a Scarborough.

Daw hwn o lyfr Syr Garrard Tyrwhitt-Drake “English Fairs and Circuses”:

“The most popular and best known trainer of my day was Captain Wombwell, who worked the lions for Mr E.H. Bostock. He was a heavily built man, about 5ft. 8 in. in height, with fair hair, a long waxed moustache, and the largest hands I ever saw.

“He was attired in a crimson plush jacket with gold braiding and frogs – evidently made before he became so stout, as it would not meet anywhere. It was emblazoned with many medals presented to him to record special deeds of valour – in the menagerie and not on the battlefield.

“Armed only with a twisted willow whip stock and rawhide thong, he would climb slowly up the steps leading to the door of the cage. With his hands on the door-catch and his eye on the position of the animals, he would at the right moment open the door, and with extraordinary agility for such a heavy man, be inside with the door slammed behind him in a split second. Then the fun began.

“The five big lions would start bounding round the 6ft-wide cage, with Wombwell unconcernedly standing in the centre. After the first mad rush round, the usual jumping and posing took place and then, to my mind, the most exciting moment arrived when the trainer had to leave the cage. Again, the exact moment had to be gauged for a hasty exit backwards, which was accompanied by a mad rush at the door by two or three of the lions.”

Disgrifiodd Syr Garrard y diwedd yn dda iawn hefyd:

“I think it may be said that the travelling menagerie proper has had its day and, after 130 years on the road, will be seen no more. I am talking of the show of not less that six or eight wagons of beasts and a big front. Small wild animal shows are still touring the country with the fairs, but when the Bostock & Wombwell show was sold to the London Zoo in 1932 it was the end of the menagerie that relied entirely on itself.”