Eglwys Blwyf Llansawyl

St Sawyls viewed from, the gate to the churchyard, photograph taken about 1895, by the great Welsh photographer John Thomas

Sant Sawyl o’r giat i fynwent yr eglwys, y llun wedi’i dynnu oddeutu 1895, gan y ffotograffydd enwog Cymreig John Thomas.

Mae Eglwys Blwyf Llansawyl yn Eglwys fach brydferth iawn. Mae corff yr Eglwys a’r côr yn rhannau o’r adeilad gwreiddiol.

Mae rhannau o’r adeilad gwreiddiol wedi’u dymchwel a gwnaed ychwanegiadau ato hefyd. Hefyd mae gwaith adnewyddu ac adfer wedi’i wneud.

Ni all unrhyw un ddyfalu’n gywir pryd cafodd corff yr eglwys a’r côr eu hadeiladu. Roedd yr adeilad yn wreiddiol â tho gwellt gyda gwellt o wenith. Gosodwyd y llechi ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ychwanegiad yw tŵr yr eglwys ac mae ei wal ddwyreiniol wedi’i hadeiladu ar wal orllewinol yr adeilad gwreiddiol. Fwy na thebyg cafodd y tŵr ei ychwanegu yng nghyfnod teyrnasiad y Tuduriaid. Mae tŵr tebyg wedi’i ychwanegu at  Eglwys blwyf Llanwenog. Ond mae un ychwanegiad pwysig i hwn. Uwchben y drws gorllewinol mae arfbais Harri’r VII.

Mae plwyf Llansawyl wedi bod yn gysylltiedig yn eglwysig â Chynnwyl Gaio erioed. Yr hen gyfeiriadau yw “Eglwys blwyf Cynnwyl Gaio ynghyd â chapeli Llanigpumsaint, Llansadwrn, Llanwrda a Phistyll Sawyl.” Mewn modd tebyg, mae Llanwenog wedi’i gysylltu â Llanybydder.

Adeg y Tuduriaid roedd gan eglwys a phlwyf oedd yn annibynnol dŵr ar eu heglwysi. Felly tybir bod Harri’r VII, wrth baratoi ar gyfer brwydr Maes Bosworth, wedi addo’r urddas ychwanegol i Lansawyl a Llanwenog yn gyfnewid am eu cefnogaeth. Yr hyn ddigwyddodd oedd eu bod wedi dod yn blwyfi annibynnol yn sifil ond nid yn eglwysig. Felly newidiwyd yr enwau o Bistyll Sawyl i Lansawyl ac o  Ffynnon Wennog i Lanwenog. Daeth Llanwenog yn annibynnol yn eglwysig ym 1940 ond mae Llansawyl yn dal yn gysylltiedig â Chynnwyl Gaio.

Cafodd yr Eglwys ei hatgyweirio a’i hadnewyddu’n helaeth adeg y Parch Charles Chidlow. Dechreuwyd ar y gwaith ym 1884 ac fe’i gwblhawyd ym 1886. Tynnwyd oriel yr Eglwys a gosodwyd to newydd sbon. Rhoddwyd y seddi a’r pulpud, fel ag y maen nhw ar hyn o bryd i mewn. Cafodd y waliau mewnol eu plastro ac aeth ffenestri newydd i mewn yn lle’r hen rai.

St Sawyls’ beautiful stone reredos, put in by the Drummonds of Edwinsford in 1906.

Gwrthgefn allor carreg prydferth Sant Sawyl, a osodwyd gan deulu Drummond o Edwinsford ym 1906.

Digwyddodd yr adnewyddu diwethaf ym 1906. Rhoddwyd ffenest ddwyreiniol newydd i mewn a hefyd gwrthgefn allor* carreg yn dynodi’r bugail da, gyda’r deg gorchymyn wedi’u hysgythru ar yr ochrau. Gwnaed hyn gan Syr James Williams Drummond, Barwnig, a’r Fonesig Drummond o Edwinsford, er cof am eu rhieni. Gwnaed ar gyfer achlysur gosod y garreg sylfaen yn Iechydfa Alltymynydd. Gosodwyd y garreg gan y Dywysoges Christian, a arhosodd yn Edwinsford ar yr achlysur ac roedd wedi bod i addoli yn eglwys blwyf Llansawyl ar y dydd Sul cyn y seremoni.

Unusually the stone font is positioned at the farthest point from the altar, beside the entrance.

Yn arferol, mae’r bedyddfaen carreg wedi’i leoli ar y pwynt pellaf o’r allor, ger y fynedfa.

Mae llawer o eitemau o ddiddordeb mawr yn yr eglwys o safbwynt hynafiaethol. Hefyd maent yn dangos arferion a thraddodiadau’r gorffennol. Mae ganddi fedyddfaen carreg wedi’i adeiladu i mewn i’r wal orllewinol ar ochr ogleddol y drws, sy’n safle rhyfedd iawn ar ei gyfer. Hefyd ar y wal orllewinol ar ochr ddeheuol y drws mae cawg dŵr swyn. Gosodwyd yr un presennol ym 1884-1886, gan i’r un gwreiddiol syrthio’n ddarnau pan oedd y seiri maen yn ei adfer. Yn y bwa sy’n rhannu’r côr rhag y corff mae dau hagiosgop.** Ar yr adeg yr oedd llechi yn cael eu gosod yn lle gwellt, rhoddodd y plwyfolion feinciau yn yr eglwys er mwyn i’r gynulleidfa eistedd. Cyn hynny roedd yn rhaid i ran fwyaf yr addolwyr sefyll, gyda meinciau wedi’u gosod yn ymyl y waliau yn unig i’r hen a’r eiddil.

The unusual (and hard to explain) Maltese Cross

Y Groes Melita anarferol (ac anodd ei hegluro).

Hefyd, dyma un o’r ychydig eglwysi yn y wlad â Chroes Melita. Mae pam y mae un o’r rhain yn Llansawyl o gwbl yn ddirgelwch, ac mae pam y’i gosodwyd mor bell i lawr yn y wal ddeheuol yn fater yr un mor ddirgel.

Mae hefyd dau ddarn o dystiolaeth huawdl o dduwioldeb pobl Llansawyl yn yr hen ddyddiau. Er nad oes gan uwch eglwys Caio ffenestr gwahangleifion, mae gan eglwys Llansawyl ddwy. Fel arfer roedd un gan bob eglwys a chapel yn y dyddiau cynnar. Ymddengys heddiw nad oes reswm pam oedd gan Caio ddim un a chan Llansawyl ddwy, ond mae’n rhaid bod yna reswm. Mae hefyd yn ochr ddeheuol y côr amlinelliad o’r drws y byddai’r offeiriad â gofal yn mynd allan drwyddo i gyntedd y gwahangleifion i osod yr

A hagioscope or squint, now hidden behind the pulpit.

Hagioscop neu ysbiendwll, wedi’i guddio nawr tu ol y pulpud.

elfennau cysegredig er budd eneidiau’r bobl anffodus hynny. Yr ail dystiolaeth yw’r hagiosgopau y soniwyd amdanyn nhw eisoes. Cawsant eu rhoi i mewn er mwyn i’r addolwyr oedd yn bresennol ar yr ochrau, weld y seremoni ddifrifol o gysegru’r bara a’r gwin i fod yn gorff a gwaed gwirioneddol yr Arglwydd Iesu. Cred y Pabyddion fod y weithred o gysegru gan yr offeiriad yn troi’r bara a’r gwin yn gorff a gwaed Crist i gredinwyr. Mae addysgu’r Eglwysi y tu allan i’r Gymundeb Rhufeinig, ac eithrio’r Anglicaniaid Uwch sy’n rhannu’r un gred â’r Rhufeiniaid, yn dweud bod y bara a’r gwin yn cynrychioli i gredinwyr gorff a gwaed Crist.

The outline of the blocked-up leper door.

Amlinelliad drws gwahangleifion a gaewyd.

Nodiadau: –
* gwrthgefn allor = sgrîn addurniadol o bren neu garreg sy’n gorchuddio’r wal y tu cefn i’r allor, yn aml wedi’i gerfio’n llun yn dangos golygfeydd o’r Beibl.

** Mae hagiosgop neu ysbïendwll yn dwll lletraws yn wal fewnol eglwys oedd yn rhoi golwg o’r allor o ale neu gapel ochr. Mae gan Sant Sawyl ddau ond mae un wedi’i guddio gan yr organ, a’r llall gan y pulpud.

Yr Awdur

Daniel Thomas oedd Ficar Llansawel a Chaio rhwng 1929 a 1969. Bu farw ym 1974. Rhoddwyd copi i ni gan Audrey Dyer, Brechfa, sef ei wyres, o’r traethawd hanesyddol ar eglwys Sant Sawyl a ysgrifennodd yn ystod ei gyfnod yno. Cafodd ei ysgrifennu yn Saesneg. Ysgrifennodd hefyd draethawd hanesyddol am blwyf Caio, gafodd ei gynnwys yn Llandovery and its Environs: A Miscellany, a olygwyd gan Dai Gealy a Brinley Jones rai blynyddoedd yn ôl.

Tynnwyd yr holl luniau ar y dudalen hon, ac eithrio’r un cyntaf, i gyd-fynd â’r erthygl hon.