Cerdd am Lansawel o’r 1940au

Mrs S G Evans, from a family photograph taken around 1950.

Mrs S G Evans, o lun teuluol a dynnwyd oddeutu 1950.

Roedd Mrs S G Evans yn byw yng Nghastell, Llansawel, y ffermdy tua Abergorlech sydd bellach yn gartref  i Lon and Howard Riley.  Bu farw Mrs Evans yn gynnar yn 44 oed ym 1955. Ysgrifennodd nifer o gerddi yn Gymraeg, yn cynnwys yr isod, am Lansawel. Cafodd ei hysgrifennu fwy na thebyg yn gynnar yn y 1940au. Diolch i Jane Morgan, Talyllychau, am ei hanfon atom ac i Mrs Ceinwen Davies Caerfyrddin, un o ddau o blant Mrs Evans sy’n byw o hyd (cafodd chwech o blant i gyd) am y manylion bywgraffiadol. Diolch hefyd i Mrs Beti Davies, Blaenyresgair, am ei help gyda’r cyfieithiad.

Efallai na fydd cerdd Mrs Evans yn herio Dylan Thomas, ond mae’n cynnwys nifer o fanylion diddorol iawn i’r hanesydd lleol, a darlun o fywyd pentref sy’n wahanol iawn i’r hyn a welir heddiw.

Pentre Llansawel

I bentre bach Llansawel
Dechreuaf ganu can
Ond peidiwch chwi a chwerthin
Os methaf fynd ymlàn
Mae yma Go-operative
A thair o grocers shop
A shop i werthi fish and chips
Ac hefyd werthi pop

Os bydd eisiau dillad arnoch
Mae teiliwr yn y lle
Shop sgidie Jones y Gwalia*
Drws nesaf iddo fe
Y bwtchwr y pen pella
Yn mwthyn bach Llwynon
A’r ysgol y pen arall
Yn llawn o blant bach llon

Mae yma dri dafarndy
I’ch di-sychedu chwi
Ond peidiwch yfed gormod
Rhag Williams y P.C.
Os gwnewch chwi gyd fihafio
Ni ddaw ef ar eich ôl
Ond cofiwch os troseddwch
Mae yma un Town Hall.**

Os heibio afon Livy***
Digwyddwch fynd am dro
Cewch glywed tonc y morthwyl
O hyd gan Gom y Gò
A Mrs Williams Coop
Sydd yn chargo’r batteries
Nis gwn pa beth awnawn heb hon
Er gwrando y newsreels.****

Os byddwch chwi rhyw fore
Yn llesgedd iawn eich bron
Gwell i chwi fynd ar unwaith
At Doctor Burniston*****
Mae ef yn siwr och gwella
A hynny’r fuan iawn
Fel gallwch fynd am dro da’s bws
I Lambed y prynhawn

Ac hefyd yn y pentre
Mae Nyrs fach net yw gael
Fe ddaw i’ch gweld bob amser
Boed eira neu boed haul
Mae yma dri addoldÿ
I dderbyn gras y ne
Nid oes na bentre mwy complete
Yw gael yn unrhyw le.

 

Llansawel Village
Little village of Llansawel
I’m starting to sing a song.
Don’t you laugh
If I can’t get far with it.
Here is the co-op
And three grocers
And a fish and chip shop
Also selling pop.

If you need clothes
The tailor’s in his place.
Farther on is Gwalia – Jones’ shoe shop.*
Next door
Is the butcher
In dear Llwynon’s cottage.
The school at the other end
Full of small happy children.

Here are three pubs
 **
To quench your thirst.
But don’t have too much.
For PC Williams’ sake.
If you all behave,
He won’t come after you.
But remember if you misbehave
Here is the magistrate’s court.***

If beyond the river Livy **
*
You happen to stroll
You’ll hear the tinkle of the hammer
From the blacksmith.
At Mrs Williams’ Co-op,
She charges batteries.
Without her, we wouldn’t know what to do,
To listen to newsreels.****

If one morning
You are feeling out of sorts,
Better go at once
To Doctor Burniston
 *****
He is sure to make you better quickly
So that you can catch the bus
For Lampeter in the afternoon.

And also in the village
The dear nurse walks
She has time to see everybody
Be it snow, or be it sun
Here come the three places of worship*******
Receiving God’s blessing.
Not a village more complete
To be found in any land

The Town Hall

Neuadd y Dref.

Nodiadau
* Mae’n debygol mai Evan Jones yw hwn, sef ysgrifennydd cyntaf y neuadd, a fu farw ym 1963 ac a olynwyd gan ei fab Glyn, a barhaodd yn y rôl am 34 mlynedd cyfan tan ei farwolaeth ym 1997. Mae plac i’r ddau ohonynt yn neuadd y pentref.

** Y tair tafarn ar y pryd hwn fyddai The Swan, Gwesty’r Black Lion a’r Angel Inn.  Mae’r Black Lion a’r Angel yno o hyd. Caeodd y Swan fel tafarn rai blynyddoedd yn ôl ond mae’n gartref o hyd i’w pherchnogion diwethaf, sef Mr and Mrs Colin Hayward.

***Mae Neuadd y Dref yn sefyll rhwng Gwesty’r Black Lion a’r Angel Inn.  Heddiw tŷ preifat ydyw, a elwir yn  The Old Courthouse.  Cafodd ei ddefnyddio fel y Llys Ynadon neu Y Sesiwn Fach tan y 1960au.  Cyn hynny cafodd ei ddefnyddio fel ystafell arwerthu ac ystafell ddigwyddiadau. Bu’n ysgoldy,  yn ogystal â defnyddiau eraill, am oddeutu deng mlynedd cyn 1876, pan gafodd yr ysgol bresennol ei hadeiladu.

****Mae Afon Marlais yn rhedeg trwy ganol y pentref, gan basio heibio i neuadd y pentref. Mae afon fach arall yn ymuno â hi tua hanner milltir y tu hwnt i’r eglwys sy’n pasio Melin Sawel (gyferbyn â’r arhosfan bysiau ar ffordd Talyllychyau) wedi codi rhywle y tu hwnt i Rydcymerau. Mae Mrs Evans yn galw’r afon hon yn Livy. Credir mai enw anffurfiol yw hwn, yn tarddu o’r ffaith ei bod yn codi ger Esgairliving. Fodd bynnag mae’r map arolwg ordnans a History of Llansawel gan Mr Fred Price (a gyhoeddwyd ym 1898) yn galw’r afon yn Felinddwr.

*****Ni wnaeth trydan y grid gyrraedd Llansawel tan y pumdegau. Yn ystod y rhyfel, y brif ffynhonnell wybodaeth oedd y radio. Cafodd y radio ei bweru gan fatris mawr, felly roedd mynd â hen fatris i’r siop a chasglu rhai newydd wedi’u gwefru yn orchwyl dyddiol.  Byddai Mrs Williams wedi bod yn brysur, yn sicrhau bod y pentref â chyflenwad digonol.

******  Tŷ’r meddyg oedd Castle Green, y tŷ mawr gwyn gyferbyn â’r Swan, sydd bellach yn gartref  i Mr a Mrs Dale Hudson, ac yn adeilad rhestredig.   Yn ystod y dyddiau hynny roedd wedi’i baentio’n frown.

*******Y tri man addoli yw wrth gwrs Eglwys  Sant  Sawyl, Capel Bethel a Chapel Shiloh.